Canlyniadau

Bu miloedd o blant ym mhob rhan o’r wlad yn cymryd rhan yn y sialens ddarllen yn 2023. Y thema oedd ‘Ar eich Marciau, Darllenwch!’.  

Llwyddodd sialens ddarllen The Reading Agency a’r llyfrgelloedd cyhoeddus i gyrraedd 39,593 o blant ledled Cymru yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Mae’r sialens yn cael ei chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Gyda phwysau cynyddol ar y system llyfrgelloedd cyhoeddus o ran staffio ac adnoddau, mae’n galonogol bod llyfrgelloedd yn dal i allu cynorthwyo llawer iawn o blant i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf, gyda 50% yn mynd ymlaen i gwblhau’r sialens a darllen chwech neu ragor o lyfrau. 

Dyma’r ffigurau i gyd i chi mewn un rhestr dwt!

  • 39,593 o blant ledled Cymru yn cymryd rhan
  • 3,254 o’r rhain o dan 3 oed ac yn cymryd rhan gyda deunyddiau cyn-ysgol arbennig
  • 28,913 o blant rhwng 4–11 oed wedi cymryd rhan drwy ymweld â’u llyfrgell leol (10% o blant rhwng 4–11 oed yng Nghymru)
  • Cwblhaodd 19,652 o blant y sialens drwy ddarllen o leiaf 6 llyfr llyfrgell (50%)
  • Ymunodd 4,670 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd
  • Bu 45,050 o blant mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd